highly annoyed rol gweld hwn yn gwaith - dwi mor eiddigeddus o ddisgyblion hanes lefel a sy’n cal astudio rhyfel cartref america. dwi’n deu hyn achos neshi sdydio hitler am 4 mlynedd (bl10-13) ag yn y chweched fuo raid i fi sdydio hanes cyfansoddiadol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, oedd yn ffycin diflas. wedi deud hynny, tasa ni di cal neud rhyfal cartra mericia sa’r athrawes dal di llwyddo i neud bols llwyr ohoni (fydd cyn ddisgyblion yr un ysgol a fi yn dalld) owel.
goddamit, ma rhyfel cartra merica yn rili difyr - mae o (jysd iawn yn llythrennol) hanner ffordd rhwng waterloo a’r rhyfel byd cynta o ran y ffor o gwffio’r rhyfel, heb son am yr holl ffactorau economaidd a moesol a ballu (ryffli fod gan y confederacy y generals gora - yn virginia eniwe ond fod gan yr union yr economi ddiwydiannol a’r manpower i oresgyn hynny - wele’r rhyfel byd cynta efo economi etc)
digon o fwydro. dwi’m yn meddwl swn i di neud y ngwaith cartref hyd yn oed os faswn in sdydio wbath oedd yn y niddori fi.
